Versos English Evan Evans Iii. Awdl

English poem

Iii. Awdl

by (1749–1823)

Listen in the reader

I Lewelyn fab Iorwerth. Dafydd Benfras ai cant.

Gwr a wnaeth llewych o'r gorllewin, Haul a lloer addoer, addef iessin, Am gwnel, radd uchel, rwyf cyfychwin, Cyflawn awen, awydd Fyrddin, I ganu moliant mal Aneurin gynt, Dydd i cant Ododin. I foli gwyndawd Gwyndyd werin, Gwynedd bendefig, ffynnedig ffin, Gwanas deyrnas, deg cywrennin, Gwreidd, teyrneidd, taer ymrwydrin, Gwrawl ei fflamdo am fro Freiddin. Er pan orau Duw dyn gyssefin, Ni wnaeth ei gystal traws arial trin. Gorug Llewelyn, orllin teyrnedd, Ar y brenhinedd braw a gorddin Pan fu yn ymbrofi a brenin Lloegyr, Yn llygru swydd Erbin. Oedd breisc, weisc ei fyddin, Oedd brwysc rwysc rhag y godorin, Oedd balch gwalch, golchiad ei lain, Oedd beilch gweilch, gweled ei werin, Oedd clywed cleddyfau finfin, Oedd clybod clwyf ymhob elin, Oedd briw rhiw yn nhrabludd odrin, Oedd braw saw Saeson clawdd y Cnwecin, Oedd bwlch llafn yn llaw gynnefin, Oedd gwaedlyd pennau, gwedi gwaedlin rhwy, Yn rhedeg am ddeulin. Llewelyn, ein llyw cyffredin, Llywiawdr berth hyd Borth Ysgewin, Ni ryfu gystal Gwstennin ag ef, I gyfair pob gorllin. Mi im byw be byddwn ddewin, Ym marddair, ym mawrddawn gyssefin, Adrawdd ei ddaed aerdrin ni allwn, Ni allai Daliesin. Cyn adaw y byd gyd gyfrin, Gan hoedyl hir ar dir daierin, Cyn dyfnfedd escyrnwedd yscrin, Cyn daear dyfnlas, arlessin, Gwr a wnaeth o'r dwfr y gwin, Gan fodd Duw a diwedd gwirin, Nog a wnaethpwyd trais anwyd trin, Ymhrefent ymhrysur orllin: Ni warthaer hael am werthefin nos, A nawdd saint boed cyfrin.