Versos English Evan Evans V. Arwyrain

English poem

V. Arwyrain

by (1749–1823)

Listen in the reader

Owain Gwynedd. Gwalchmai ai cant.

Arddwyreaf hael o hil Rodri, Ardwyad gorwlad, gwerlin teithi, Teithiawg Prydain, twyth arfdwyth Owain, Teyrnain ni grain, ni grawn rei. Teir lleng i daethant, liant lestri, Teir praff prif lynges wy bres brofi, Un o'r Iwerddon, arall arfogion Or Llychlynigion, llwrw hirion lli. Ar drydedd dros for o Norddmandi, Ar drafferth anferth, anfad iddi. A dreig Mon mor ddrud i eissillyd yn aer, A bu terfysc taer i haer holi, A rhagddaw rhewys dwys dyfysci, A rhewin a thrin a thranc Cymri, A'r gad gad greudde, a'r gryd gryd graendde, Ac am dal Moelfre mil fannieri, A'r ladd ladd lachar, ar bar beri, A ffwyr ffwyr ffyrfgawdd ar fawdd foddi, A Menai heb drai o drallanw gwaedryar, A lliw gwyar gwyr yn heli: A llurygawr glas, a gloes trychni, A thrychion yn nhud rhag rheiddrudd ri, A dygyfor Lloegr, a dygyfranc a hi, Ag ei dygyfwrw yn astrusi, A dygyfod clod cleddyf difri, Yn saith ugain iaith wy faith foli.