Versos English John Blackwell Y Ddeilen Grin

English poem

Y Ddeilen Grin

by (1797–1840)

Listen in the reader

Sech yw'r ddeilen ar y brigyn, Buan iawn i'r llaid y disgyn; Ond y meddwl call a ddarllen Wers o addysg ar y ddeilen.

Unwaith chwarddodd mewn gwyrddlesni, Gwawr y nef orftwysodd arni; Gyda myrddiwn o gyfeillion, Dawnsiodd yn yr hwyr awelon.

Darfu'r urdd oedd arni gynnau, Prin y deil dan wlith y borau, Cryna rhag y chwa ireiddlon Sydd yn angeu i'w chyfoedion.

Ni all haul er ymbelydru, Na llawn lloer er ei hariannu, Ac ni all yr awel dyner Alw yn ol ei hen ireidd-der.

Blaguro ychydig oedd ei chyfran, Rhoi un wen ar wyneb anian; Llef o'r nef yn Hydref waedda-- Darfu'th waith,"--a hithau drenga.