Versos English John Blackwell I --

English poem

I --

by (1797–1840)

Listen in the reader

Ty anwyl ferch, delw'm serch, clyw annerch clwy enaid, Tro'ist yn ddu'r cariad cu, a chanu'n ochenaid; A oedd un llaw drwy'r dref draw i nharaw'n anhirion? A oedd yn mhleth, at y peth, ddwrn yr eneth union? Yn wir dy wg dagrau ddwg i'r golwg o'r galon, Oni chaf hedd af i'm bedd i orwedd yn wirion.

P'le mae'r gred, gofus ged, adduned oedd anwyl? Ai si a siom yr amod drom unasom ryw noswyl? P'le mae'r drem, fel gwawr gem, a luniem dan lwynydd? Torrai'n syn swyn y llyn, y delyn, a'r dolydd: Yn iach i'th wedd, mi wela 'medd, wan agwedd yn agor; Dywed di, fy mun, i mi, a wyli ar fy elor?

Pan weli sail y bedd, a'r dail ar adail mor hoewdeg, Ac uwch y tir, ysgrif hir, o'r gwir ar y garreg,-- Mai d'achos di, greulon gri, fu'n gwelwi'r fau galon; Ai dyma'r pryd, daw gynta'i gyd, iaith hyfryd o'th ddwyfron? Gorchwyl gwan rhoi llef drwy'r llan, troi'r fan yn afonydd, Rhy hwyr serch felly, ferch, i'm llannerch bydd llonydd.

GADAEL RHIW.

Gofid dwys a wasga 'nghalon, Adael Rhiw a'i glannau gleision, Dolau hardd lle chwardda'r meillion, A chysuron fyrdd: Gadael mangre englyn, Diliau mel, a'r delyn; Gadael can gynhenid lan, Eu cael a'u gadael gwedyn; Gadael man na sangodd achwyn; Ond er gadael ceinciau'i gorllwyn,-- Yng ngauaf oes fe saif Trefaldwyn, Ar fy nghof yn wyrdd.

Trwm, rhy drwn, rhoi ymadawiad A bro na welir cuwch ar lygad, Na diffyg ar ei haul na'i lleuad, I ddylu blodau fyrdd; Troi i sych Rhydychen, O Bowys, hen bau Awen, Lletty hedd, a bwrdd y wledd, Lle'r adsain bryn a chrechwen: Gadael llon athrawon gwiwfwyn Och! ni wn pa fodd i gychwyn. &c.

Try yr ymadawiad ysol, Nwyf i loesau anfelusol, Ond pa'm beiaf rhagluninethol Anorffennol ffyrdd Dyma law 'madawiad, A'r llall mi sychaf lygad; Mae'r fen gerllaw, i'm cludo draw,-- Ofer--ofer siarad; Yn iach bob dengar gwm a chlogwyn,-- Yn iach, yn iach, gyfeillion addfwyn. &c.

RHYDYCHEN.

AT GYFAILL.

Athrofa'r Iesu, Rhydychen, Rhagfyr 19, 1824.

Gobeithio eich bod yn myned y'mlaen gyda Lladin. Ni wyddoch pa beth a all esgor. Gallaf addaw y cewch fwy o bleser na thrafferth yn dysgu; a gwn na byddai yn boen i'ch meddwl llym chwi dreiddio iddi ar amnaid. Mi a ddatguddiaf i chwi fy amcan wrth eich cynghori fel hyn. Os gallwch, trwy eich llafur eich hun, ymhyfforddi yn yr ieithoedd dysgedig,--os addunedwch beidio croesi trothwy tafarn yn y Wyddgrug,--os peidiwch a chyfeillachu a neb ond dynion parchus, a phrin a rhai'ny,--os byddwch ddyfal yn eich sefyllfa,--os gyrrwch ambell i ddernyn i'r Eisteddfodau, er mwyn tynnu sylw,--os ymddygwch bob amser yn syml, cyson, a gostyngedig,--ac os, gyda hyn oll, y llwyddwch i dynnu cyfeillgarwch y goreu o ddynion, Mr. Clough--meddyliwn na byddai yn anhawdd nac yn dreulfawr i chwi gael trwydded yma. Y mae eich synwyr yn ormod i adeiladu dim ar hyn, nac i yngan gair yn ei gylch i gyfaill eich mynwes. Pa beth a all cardotyn fel fi ei addaw?

Byddai yn dda gennyf pe rhoddech ddiofryd cadarn na sangech ar lawr unrhyw dafarndy yn y Wyddgrug byth. Y mae fy mynwes i yn gwaedu heddyw gan y clwyfau a dderbyniais ynddynt. Ni welais gyfaill da o fewn eu muriau erioed, ac ni welais un niweidiol iawn y tu allan. Ni wna ymddygiad isel a buchedd rinweddus a duwiol eich amddifadu o unrhyw bleser teilwng o'r enw: yn hytrach gwna i'ch cwpan redeg trosodd--addurna chwi ger bron eich gwlad--a thywysa chwi at ffynnon a arllwys ei dwfr pan y bydd Alyn, a Helicon hefyd, wedi sychu. Hyderaf na ddigiwch am yr hyfder a gymerais. Gwiriaf i chwi iddynt ddylifo oddiar deimlad mor bur ag a gurodd erioed ym mynwes tad. Gwn eich bod yn agored i lawer o demtasiynau, y rhai a gynyddant po fwyaf y deloch i sylw y byd. Gwn, hefyd, fod eich cysur amserol a thragwyddol yn ymddibynnu ar eu gorchfygu. Gwyddoch chwithau fod rhan fawr o fy nghysur innau ynglyn wrthych fel cyfaill fy ieuenctyd. Bellach, ai gormod im' am unwaith ddringo Ebal? Do, fy nghyfaill, cefais i wybod trwy brofiad trist fod deniadau cyfeddach yn llymach na saethau cawr, ac yn chwerwach na marwor meryw. Mi syrthiais i ymhlith y lladdedigion. Tybiodd fy nghyfeillion ddarfod am danaf byth, a gadawsent fi i'm tynged. Ond, trwy y moddion rhyfeddaf, dywedodd y Gwr y rhyfelais yn ei erbyn, "yn dy waed bydd fyw." Cefais yn barod lawer prawf o'i diriondeb; ac nid ydwyf yn cwbl anobeithio cael, o radd i radd, fy nerbyn i'w fyddin ac i gludo ei faner. Hyd yn hyn, y mae fy mriwiau yn rhwystro imi gydio mewn arf; ac yr ydwyf yn treulio fy oes gan y mwyaf wrth odreu Sion; ac weithiau, wrth godi'm llaw at ddail y pren sydd yn iachau'r cenhedloedd, dymunwn amneidio a'r llall at fy nghyfeillion, i beri iddynt ochel y llannerch lle y derbyniais i y saeth a lynodd yn fy nghalon.