English poem
Iddo Ef.
by John Blackwell (1797–1840)
Dat. i. 5.
'Does testun gwiw i'm can Ond cariad f' Arglwydd glan A'i farwol glwy; Griddfanau Calfari, Ac angau Iesu cu, Yw nghan a mywyd i, Hosanna mwy.
Paham bu i ddeddf y net Ymaflyd ynddo EF, A rhoi iddo glwy? Fe roddwyd yn y drefn, Fy meiau ar ei gefn; Pwy na roi floedd drachefn-- Hosanna mwy.
Ergydiwyd ato EF, Gan uffern, byd, a nef, Eu saethau hwy: Arhodd ei fwa'n gry', Nes maeddu uffern ddu, A phrynu mywyd i, Hosanna mwy.
Caniadau'r nefol gor, Sydd oll i'm Harglwydd Ior A'i ddwyfol glwy; Y frwydr wedi troi, Ellyllon wedi ffoi,-- Sy'n gwneyd i'r dyrfa roi Hosanna mwy.
O faint ei gariad EF! Nis gall holl ddoniau'r nef, Ei dreiddio drwy: Mae hyn i mi'n beth syn, I ruddfan pen y bryn Droi'n gan i mi fel hyn, Hosanna mwy.
Pan ddelo'r plant ynghyd, O bedair rhan y byd, I'w mangre hwy; Tan obaith yn ddilyth, Cael telyn yn eu plith, I ganu heb gwyno byth, Hosanna mwy.
Tra bwyf ar riwiau serth, Preswylydd mawr y berth, Rho'th gwmni trwy; Mae cofio am y loes Dan arw gur y groes, Yn rhyw feluso f'oes, Hosanna mwy.
Na ddigied neb o'r plant, Am imi ganu ar dant O'u telyn hwy: Myfyrio'r tywydd du Fu ar ein Iesu cu, A droes fy nghan mor hy', Hosanna mwy.
ANGAU.
Englynion a ysgrifenwyd yn ddifyfyr ym mynwent y Wyddgrug.
"Ni foddir (mae'n rhyfeddol)--chwai angau, A chyngor dymunol; Er wban, griddfan greddfol, (Uthr in' yw!) ni thry yn ol.
Er gwaedd mam,--er gweddi myrdd, Er gwen byd,--er gwyneb hardd, Er swn cwyn,--er seinio cerdd, Er ing ffull, mynn angau'i ffordd.
Ni eiriach rai bach rhag bedd,--i'r cedyrn Rhoir codwn i'r dyfn-fedd; A mirain feibion mawredd Ostyngir, siglir o'u sedd.
I'r llaid yr aeth fy nhaidiau,--i huno, Fu'n heinyf er's dyddiau: I'r ystafell dywell dau, Ryw funud, yr af innau.
Ond cael nod hynod, a hedd--yr Iesu, A drws i dangnefedd; Yn dawel yn y diwedd, Af i gaban bychan bedd.
CYMDEITHAS GYMREIGYDDOL CAERLLEON.
Boed llwydd, mewn pob dull addas,--a chynnydd I'ch enwog Gymdeithas; Heb stwr, na chynnwr, na chas-- Geni beirdd heirdd fo'i hurddas.
Bu gannoedd drwy bob gweniaith,--addefent, Am ddifa'r Omeriaith; Aent hwy i lawr i fynwent laith-- I fyny safai'r fwyn-iaith.
Heddyw gwelaf na faidd gelyn--er gwyn, Roi gair yn ei herbyn; A dolef gref sy'n dilyn, "A lwyddo Duw, ni ludd dyn."
Cur llawer fu Caerlleon,--y gw'radwydd Sy'n gwrido hanesion; Am groesi'r Clawdd hir i hon, Brethid calonnau Brython.
'Nawr Cymry gant wisgant wen, Chwarddu gant a cherddi gwin, Ceir bri, a chwmni, a chan, O fewn Caer heb ofn y cwn.
Byw undeb, gyda bendith,--a daenir O'ch doniawl athrylith: Gelyn breg, rhwyg rheg rhagrith I chwerwi'ch plaid, na chaer i'ch plith.